Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (188) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 7, 8, 9, 11 a 12 gan y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi.
3 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Dechreuodd yr eitem am 15.05
Gofynnwyd y 3 chwestiwn.
4 Datganiad gan Darren Millar: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.14
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 16.04
NDM5468 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder y dyfarnwyd graddau annisgwyl o isel i rai myfyrwyr a safodd fodiwlau Saesneg TGAU ym mis Ionawr 2014;
2. Yn croesawu adolygiad cyflym Llywodraeth Cymru o'r sefyllfa;
3. Yn nodi pwysigrwydd ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael i'r adolygiad; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i rannu natur y broses adolygu a'r dystiolaeth a gafwyd fel rhan o'r adolygiad mewn modd agored a didwyll.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 17.04
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5469 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y gwelliant diweddar yn economi'r DU yn sgîl camau gweithredu Llywodraeth y DU.
2. Yn cydnabod mai 0.7% oedd twf cyffredinol cynnyrch mewnwladol crynswth y DU ym mhedwerydd chwarter 2013.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU i sicrhau twf economaidd hirdymor.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
40 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
17 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu bod y data CMC diweddaraf yn dangos dirywiad yn CMC Cymru o’i gymharu â’r cyfartaledd yn yr UE.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
17 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dangosyddion economaidd allweddol, fel ystadegau CMC a GYC, yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd er mwyn cyfrannu at bolisïau yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
3 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn penderfynu bod angen cymryd camau ar frys i wella ffyniant economaidd Cymru, yn cynnwys mabwysiadu strategaeth wedi’i seilio ar sgiliau ac sy’n cael ei harwain gan allforio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r effaith gadarnhaol y bydd creu mwy na miliwn o brentisiaethau yn Lloegr ers 2010 wedi’i chael ar economi’r DU ac yn gresynu at y ffaith bod nifer y bobl ar brentisiaethau yng Nghymru wedi gostwng dros 26% rhwng 2006 a 2012.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5469 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod y data CMC diweddaraf yn dangos dirywiad yn CMC Cymru o’i gymharu â’r cyfartaledd yn yr UE.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU i sicrhau twf economaidd hirdymor.
3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dangosyddion economaidd allweddol, fel ystadegau CMC a GYC, yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd er mwyn cyfrannu at bolisïau yn y dyfodol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
7 Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 18.08
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5467 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â rhwystrau i gyflogaeth a dilyniant gyrfa drwy:
a) Ymestyn gofal plant fforddiadwy ledled Cymru;
b) Sicrhau bod cyrff y sector cyhoeddus yn cymryd camau gweithredu cadarnhaol i gynyddu amrywiaeth;
c) Gweithio gyda chyflogwyr mawr i gynyddu cyfleoedd i bobl anabl;
d) Cefnogi'r cyflog byw a dileu arferion cyflogaeth gwael fel contractau dim oriau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
17 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.50
8 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.53
NDM5466 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Achub ein Gwasanaethau – Ymgyrch pobl Sir Benfro i gadw gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.23
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 25 Mawrth 2014